Chapter 5 » 5.05
Mae gan Crynwyr Cymru – Quakers in Wales gyfrifoldebau ar ran Cyfarfod Blynyddol Prydain, i gynrychioli ac hyrwyddo bywyd a thystiolaeth y Crynwyr yng Nghymru. Mae’r cyfarfod yn cynnwys pawb o’r Crynwyr sydd yn byw yng Nghymru neu yn aelodau o gyfarfodydd lleol yng Nghymru. Gwneir darpariaeth i aelodau o gyfarfodydd eraill fynychu cyfarfodydd yn unol â 4.08. Mae cyfrifoldebau Crynwyr Cymru – Quakers in Wales yn cynnwys:
- ar y cyd â chyfarfodydd rhanbarth perthnasol a chyrff Crynwrol eraill hybu bywyd a thystiolaeth ysbrydol, hwyluso cyswllt rhwng Cyfeillion o bob oed a chynnig cyfleoedd am hyfforddiant a chyd gefnogaeth i’r rhai sydd â chyfrifoldebau arbennig;
- cynrychioli Cyfarfod Blynyddol Prydain o fewn Cymru, gan gynnwys: penodi Cyfeillion i weithredu ar Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) a’i bwyllgorau (gweler 9.09–9.12), cyfathrebu gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyda chyrff cyhoeddus a gwirfoddol eraill yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud â thystiolaeth gymdeithasol, heddwch ac amlffydd;
- annog cyfathrebu oddiwrth y cyfarfodydd rhanbarth perthnasol ar faterion sydd, yn eu tyb hwy, yn haeddu cael eu cyd drafod (gweler 4.18), gan gynnwys tystiolaethau i fywyd a gwasanaeth Cyfeillion ymadawedig, gan ddirnad os dylid anfon rhain at y Cyfarfod Blynyddol er lles y Gymdeithas gyfan (gweler 4.27–4.30);
- ymateb i faterion sydd yn ymwneud â byw mewn cymdeithas ddwyieithog gan gynnwys ymestyn i’r gymuned yng Nghymru a chomisiynu, cyfieithu a chyhoeddi deunydd Crynwrol yn y Gymraeg;
- cynrychioli Cymru i Gyfarfod Blynyddol Prydain, gan gysylltu â phwyllgorau ac adrannau y cyfarfod blynyddol fel bo’n addas.
Fe fydd Crynwyr Cymru – Quakers in Wales yn darparu gwybodaeth ac enwebiadau neu benodiadau i gyrff Crynwrol a chyrff eraill yn ôl y galw. Gall y Cyfarfod gysylltu trwy gofnod â Chyfarfod Blynyddol Prydain trwy ei bwyllgor agenda (6.18) a’r Cyfarfod Dioddefiannau (7.04), ac hefyd â’r cyfarfodydd rhanbarth sy’n cynnwys rhannau o Gymru. Mae hefyd yn ofynnol i’r cyfarfod dderbyn cofnodion gan y cyrff hyn.