Chapter 2 » 2.05
Experience and nature of worship
A’r pryd y gwelo Duw yn dda roddi gair yng ngenau neb ohonynt, mae hwnnw i ddywedyd y peth y byddo yr Arglwydd wedi ei ddatguddio a’i ddysgu iddo. Felly mae ef i roddi allan yn eglurhad yr ysbryd a’i nerth, ac yn y rhinwedd a’r bywyd, fel y byddo er adeiladaeth yn yr eglwys; canys mae dyfnder yn galw ar ddyfnder, a bywyd yn cyrraedd at fywyd, a’r gynulleidfa yn cyd fyned i’r dyfroedd i yfed yn rhad. Yna os datguddir dim i’r un a fyddo yn eistedd ger llaw, mae y cyntaf i ddistewi, oblegid mae y ffrwd honno o ddawn ysbrydol yn cael ei throi ar olwyn y dyn arall; canys mae y rhyddid ysbrydol hwnnw, yn y wir eglwys, i bob un, i lefaru megis ag y cynhyrfer hwynt, gan yr Ysbryd Glân.
Ellis Pugh, c.1700
An English translation ‘from the British tongue’ was published in 1732:
And when God sees meet to put a Word into the mouth of any one of them, he is to speak what the Lord hath revealed and taught him (I Cor 2:4). So is he to give it forth in demonstration and power, and in the virtue and life of the Spirit, that it may be to edification in the church; for deep calleth unto deep, and life reacheth unto life, and the congregation go together to the waters to drink freely (Ps 42:7). And if anything be revealed to one that sits by, when the first is silent, that stream of the spiritual gift is turned to the other, because that spiritual liberty is in the true church, for every one to speak as they are moved by the Holy Spirit.