Chapter 16 » 16.53

The Quaker marriage

Datganiad

The following is a translation into Welsh of 16.52:

Pan fo’r cyfarfod i addoli wedi ymgynnull, mae’r ddeuddyn, pan fo’n gyfleus, i sefyll, os y medrant, a chan afael y naill yn llaw y llall, i ddatgan yn eglur ac yn ddifrifol, y naill ar ôl y llall, ym mha bynnag drefn y dymunant, gan ddweud:

Gyfeillion, yr wyf i yn cymryd fy nghyfaill/nghyfeilles . . . . . . . . . . . [enw llawn] yn briod i mi gan addo, trwy gymorth dwyfol, y byddaf iddo ef/iddi hi/i [enw a arferir yn gyffredin] yn briod cariadus a ffyddlon gyhyd ac y byddom ill dau byw ar y ddaear.

Gellir cynnwys, fel rhagymadrodd i’r datganiad, y geiriau ‘Ym mhresenoldeb Duw’ neu’r geiriau ‘Yn ofn Duw ac ym mhresenoldeb y gynulleidfa hon’. Gellir defnyddio’r gair ‘gwraig’ neu ‘gŵr’ yn hytrach na ‘priod’ fel y bo’n addas, neu ‘partner mewn priodas’. Yn hytrach na’r geiriau ‘trwy gymorth dwyfol’ gellir dweud ‘trwy gymorth Duw’. Yn lle’r geiriau ‘gyhyd ac y byddom fyw ar y ddaear’ gellir defnyddio ‘hyd nes y gwêl yr Arglwydd yn dda ein gwahanu trwy angau’. Ni oddefir unrhyw newidiadau eraill i’r geiriad. Rhaid i’r cwpwl gytuno ar eu dewis o eiriad gyda’r swyddog cofrestru ymlaen llaw. Ym mhob achos rhaid i’r ddau sy’n priodi ddefnyddio’r union eiriau (neu eiriad cyfatebol wrth ddefnyddio ‘gŵr’ neu ‘gwraig’) ac mae’n rhaid i’w haddewidion fod yn gyfartal a chyfatebol.

← 16.52 16.54 →