Chapter 1 » 1.03

Cynghorion a holiadau

  1. Ystyriwch, Gyfeillion annwyl, gymhellion cariad a gwirionedd yn eich calonnau. Ymddiriedwch ynddynt fel arweiniad Duw, Goleuni yr hwn sy’n dangos i ni ein tywyllwch gan ein dwyn i fywyd newydd.
  2. Dygwch eich holl fywyd dan reolaeth Ysbryd Crist. A ydych yn agored i allu iachusol cariad Duw? Coleddwch yr hyn sydd o Dduw ynoch, fel y bo i’r cariad hwn dyfu ynoch a’ch arwain. Boed i’ch addoliad a’ch bywyd beunyddiol gyfoethogi eu gilydd. Trysorwch eich profiad o Dduw, pa fodd bynnag y daw i’ch rhan. Cofiwch nad damcaniaeth yw Cristnogaeth, eithr ffordd.
  3. A ydych yn ceisio neilltuo adegau o dawelwch i fod yn agored i’r Ysbryd Glân? Y mae ar bob un ohonom angen canfod ffordd i mewn i ddistawrwydd sy’n ein galluogi i ddyfnhau’n hymwybyddiaeth o’r dwyfol ac i ganfod tarddle mewnol ein nerth. Ceisiwch lonyddwch mewnol, hyd yn oed ynghanol gweithgareddau bywyd beunyddiol. A ydych yn meithrin ynoch eich hun ac mewn eraill yr arfer o ddibynnu ar arweiniad dyddiol Duw? Daliwch eich hunain ac eraill yn y Goleuni, gan wybod fod Duw yn coleddu pawb oll.
  4. Gwreiddiwyd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion mewn Cristnogaeth a chafodd ysbrydoliaeth yn wastad o fywyd a dysgeidiaeth Iesu. Pa fodd y dehonglwch eich ffydd yng ngoleuni’r dreftadaeth hon? Pa fodd y llefara Iesu wrthych heddiw? A ydych yn dilyn esiampl Iesu o gariad ar waith? A ydych yn dysgu o’i fywyd realiti a chost ufudd-dod i Dduw? Pa fodd y mae ei berthynas â Duw yn eich herio a’ch ysbrydoli?
  5. Cymerwch amser i ddysgu am brofiadau pobl eraill o’r Goleuni. Cofiwch bwysigrwydd y Beibl, ysgrifeniadau Cyfeillion a phob llyfr sy’n datguddio ffyrdd Duw. A chwithau’n cael eich dysgu gan eraill, a fedrwch yn eich tro gyfrannu’n rhydd o’r hyn a dderbyniasoch? Tra’n parchu profiadau ac opiniynau pobl eraill, nac ofnwch fynegi yr hyn a gawsoch a’r hyn yr ydych yn ei gyfrif yn werthfawr. Cofiwch y gall amheuaeth a chwestiynu arwain hefyd at dwf ysbrydol ac at ymwybyddiaeth ehangach o’r Goleuni sydd ynom oll.
  6. A ydych yn cydweithio’n llawen gyda grwpiau crefyddol eraill tuag at amcanion cyffredin? Gan fod yn ffyddlon i’r weledigaeth Grynwrol, ceisiwch gyda dychymyg ran ym mywyd a thystiolaeth aelwydydd eraill o ffydd, gan greu ynghyd rwymau cyfeillgarwch.
  7. Ymglywch ag ysbryd Duw ar waith yng ngweithgareddau cyffredin a phrofiad eich byw beunyddiol. Pery addysg ysbrydol gydol bywyd, yn aml mewn ffyrdd annisgwyl. Ceir ysbrydoliaeth o’n hamgylch ym mhobman, ym myd natur, yn y gwyddorau a’r celfyddydau, yn ein gwaith a’n cyfeillgarwch, yn ein gofidiau fel yn ein llawenydd. A ydych yn agored i oleuni newydd, o ba ffynhonnell bynnag y dêl? A ydych yn ddetholgar wrth ystyried syniadau newydd?

  8. Addoliad yw ein hymateb i ymglywed â Duw. Gallwn addoli ar ein pennau’n hunain, ond pan ymunwn ag eraill mewn aros disgwylgar, gallwn ddarganfod ymwybyddiaeth ddyfnach o bresenoldeb Duw. Yn ein cyrddau addoli ceisiwn ymgynnull mewn llonyddwch fel y cawn oll deimlo nerth cariad Duw yn ein tynnu ynghyd ac yn ein tywys.
  9. Yn yr addoliad, fe awn gyda pharch i gymundeb â Duw, gan ymateb i anogaethau’r Ysbryd Glân. Deuwch i’r cyfarfod addoli wedi ymbaratoi yn eich calon a’ch meddwl. Ildiwch eich hunain a’ch holl ofalon allanol i arweiniad Duw, fel y caffoch ‘y drwg yn gwanhau ynoch a’r da yn ymddyrchafu’.
  10. Deuwch yn gyson i’r cwrdd addoli, hyd yn oed pan fyddoch ddig, neu’n isel-ysbryd, neu’n flinedig, neu’n oer yn ysbrydol. Yn y distawrwydd, ceisiwch a derbyniwch gefnogaeth weddigar eich cyd-addolwyr. Ceisiwch ganfod cyfanrwydd ysbrydol sy’n cwmpasu dioddefaint yn ogystal â diolchgarwch a llawenydd. Yn anad unpeth arall fe all gweddi sy’n tarddu o ddwfn y galon ddwyn gwellhad ac undod. Gadewch i’r cwrdd addoli faethu eich holl fywyd.
  11. Byddwch onest â chwi’ch hunan. Pa wirioneddau diflas y dichon eich bod yn eu hosgoi? O adnabod eich ffaeleddau, na foed i hynny eich digalonni. Mewn cydaddoli, gallwn ganfod y sicrwydd o gariad Duw a chanfod o’r newydd y dewrder i ddal ati.
  12. Pan fyddoch synfyfyriol neu ddryslyd yn y cwrdd addoli, gadewch i feddyliau cyndyn neu anesmwyth ymollwng yn dawel i’r ymwybod o bresenoldeb Duw yn ein mysg ac yn y byd. Derbyniwch weinidogaeth lafar eraill mewn ysbryd addfwyn a chreadigol. Estynnwch am yr ystyr sy’n ddwfn ymhlyg ynddo. Hyd yn oed os nad yw’n air Duw i chwi, gall fod felly i eraill. Cofier ein bod oll yn rhannu cyfrifoldeb am y cwrdd addoli, pa un bynnag ai mewn distawrwydd neu ynteu trwy’r gair llafar y bo’n gweinidogaeth.
  13. Na thybiwch na fydd eich rhan chwi byth yn weinidogaeth lafar. Fe ddichon cywirdeb a didwylledd wrth siarad, hyd yn oed yn fyr, agor y ffordd i weinidogaeth lawnach gan eraill. Pan ysgogir chwi i lefaru, arhoswch yn amyneddgar i wybod fod yr arweiniad a’r adeg yn briodol, ond na foed ymdeimlo â’ch annheilyngdod eich hun yn rhwystr. Gweddïwch am i’ch gweinidogaeth godi o ddyfnder profiad, ac ymddiriedwch y rhoir geiriau i chwi. Ceisiwch siarad yn glywadwy a chroyw, gan feddwl am anghenion pobl eraill. Gochelwch rhag siarad yn ystrydebol neu’n rhy aml. Gochelwch rhag ymhelaethu tua diwedd cwrdd pan fyddid eisoes wedi’i iawn derfynu.
  14. A gynhelir eich cyrddau ynglŷn â materion eglwysig mewn ysbryd addolgar gan ddibynnu ar gyfarwyddyd Duw? Cofiwch nad ydym yn ceisio penderfyniad trwy fwyafrif na hyd yn oed trwy gonsensws. Tra’n aros yn amyneddgar am arweiniad dwyfol, ein profiad yw y bydd y llwybr iawn yn ymagor ac y cawn ein tywys i undod.
  15. A ydych yn cymryd rhan mor fynych ag y galloch mewn cyrddau ynglŷn â materion eglwysig? A ydych yn ddigon cyfarwydd â’n llywodraeth eglwysig i gyfrannu i’w phrosesau disgybledig? A ydych yn ystyried cwestiynau anodd gyda meddwl gwybodus yn ogystal ag mewn ysbryd haelfrydig a chariadus? A ydych yn fodlon i’ch dirnadaeth a’ch dymuniadau personol gymryd eu lle ochr yn ochr â’r eiddo eraill, neu gael eu gosod o’r neilltu, wrth i’r cwrdd chwilio am y llwybr cywir ymlaen? Oni ellwch fod yn bresennol, cynhaliwch y cwrdd yn weddigar.
  16. A ydych yn croesawu’r amrywiaeth mewn diwylliant ac iaith a mynegiant ffydd sydd o fewn ein cyfarfod blynyddol ac yn y gymuned fyd-eang o Gyfeillion? Ceisiwch gynyddu eich amgyffred gan elwa o’r dreftadaeth gyfoethog hon a’r ystod eang o ddirnadaeth ysbrydol. Cynhaliwch yn eich gweddïau eich cyfarfod blynyddol a hefyd gyfarfodydd blynyddol eraill.

  17. A ydych yn parchu’r hyn sydd o Dduw ym mhawb, er y gall fod wedi ei fynegi mewn ffyrdd anghyfarwydd neu ynteu’n anodd ei ddirnad? Y mae i bob un ohonom brofiad neilltuol o Dduw a rhaid i bob un ohonom ganfod sut i fod yn ffyddlon i’r profiad hwnnw. Pan fo geiriau’n ddieithr i chwi neu’n tarfu arnoch, ceisiwch synhwyro o ba le y daethant, gan ystyried yr hyn a fu’n maethu bywydau pobl eraill. Gwrandewch yn amyneddgar, a cheisiwch y gwirionedd fo i chwi yn naliadau pobl eraill. Gochelwch rhag beirniadaeth sy’n clwyfo ac iaith sy’n cythruddo. Peidiwch â gadael i gryfder eich argyhoeddiadau beri ichwi wneud gosodiadau neu honiadau annheg neu anwir. Ystyriwch y gellwch fod yn camsynied.
  18. Pa fodd y gallwn wneud y cwrdd yn gymuned lle caiff pob person ei dderbyn a’i faethu, a lle caiff dieithriaid groeso? Ceisiwch adnabod eich gilydd yn y pethau tragwyddol; dygwch faich methiannau’ch gilydd a gweddïwch bawb dros eich gilydd. Wrth i ni gyfranogi mewn tynerwch o lawenydd a thrallod bywyd beunyddiol ein gilydd, yn barod i roddi help ac i’w dderbyn, gall ein cwrdd fod yn gyfrwng i gariad a maddeuant Duw.
  19. Llawenhewch ym mhresenoldeb plant a phobl ifanc yn eich cwrdd, gan gydnabod y doniau sydd ganddynt. Cofiwch fod y cwrdd oll yn rhannu cyfrifoldeb am bob plentyn yn ei ofal. Ceisiwch iddynt hwy, fel i chwi’ch hunain, ddatblygiad llawn o ddoniau Duw a’r bywyd helaeth y dywedodd Iesu y gallem ei feddiannu. Pa fodd yr ydych yn cydrannu’ch daliadau dyfnaf â hwy, gan adael rhyddid iddynt ddatblygu yn y modd yr arweinio ysbryd Duw hwynt? A ydych yn eu gwahodd i rannu gyda chwi eu dirnadaeth? A ydych yn barod i ddysgu ganddynt ac, ar yr un pryd, i dderbyn eich cyfrifoldebau tuag atynt?
  20. A roddwch ddigon o amser i rannu gydag eraill, yn newydd-ddyfodiaid ac yn rhai a fu’n aelodau ers tro, eich dealltwriaeth o addoli ac o wasanaeth ac o ymrwymiad i dystiolaeth y Gymdeithas? A roddwch gyfran briodol o’ch arian i gynnal gwaith Crynwrol?
  21. A ydych yn anwylo pob cyfeillgarwch, fel y byddont yn dyfnhau ac yn cynyddu mewn dealltwriaeth a pharch o’r ddeutu? Ym mhob perthynas glòs efallai y bydd raid mentro poen yn ogystal â chanfod llawenydd. Wrth brofi hapusrwydd mawr neu loes fawr, efallai ein bod yn fwy agored i waith yr Ysbryd.
  22. Perchwch yr amrywiaeth eang sydd yn ein mysg yn ein bywydau a’n cysylltiadau. Gochelwch rhag ffurfio barn ragfarnllyd am deithiau bywyd pobl eraill. A ydych yn meithrin yr ysbryd o gyd-ddyheu ac o faddeuant a fynnir gennym, a ninnau’n ddisgyblion? Cofiwch fod pob un ohonom yn unigryw, yn werthfawr, yn blentyn i Dduw.
  23. Ystyriodd Cyfeillion erioed fod priodas yn ymrwymiad crefyddol yn hytrach na chytundeb sifil yn unig. Dylai’r ddeuddyn gynnig gyda chymorth Duw fwriad i goledd y naill a’r llall gydol eu hoes. Cofiwch fod hapusrwydd yn dibynnu ar ddealltwriaeth a serch diysgog o’r ddeutu. Pan ddaw amseroedd anodd, cofiwch werth gweddi a dyfalbarhad a synnwyr digrifwch.
  24. Y mae ar blant a phobl ifanc angen cariad a sefydlogrwydd. A ydym yn gwneud a allom i gynnal rhieni ac eraill sy’n dwyn y cyfrifoldeb o ddarparu’r gofal hwn?
  25. Y mae perthynas tymor-hir yn dwyn tyndra yn ogystal â boddhad. Os yw eich perthynas â’ch partner dan straen, ceisiwch gymorth i ddeall safbwynt y llall ac i archwilio’ch teimladau eich hunan, teimladau a all fod yn bŵerus a dinistriol. Ystyriwch ddymuniadau a theimladau unrhyw blant sydd ynghlwm wrthych, gan gofio eu hangen parhaol am gariad a sicrwydd. Ceisiwch arweiniad Duw. Os wynebwch y trallod o ymwahanu neu o ysgaru, ceisiwch gadw rhyw gyswllt tosturiol fel y galloch wneud trefniadau heb fwy o chwerwder nag sydd raid.
  26. A ydych yn adnabod anghenion a doniau pob aelod o’ch tŷ a’ch tylwyth, heb anghofio’r eiddoch chwi’ch hunan? Ceisiwch wneud eich cartref yn drigfa cyfeillgarwch cariadus a mwynhad, lle y gall pawb sy’n byw neu’n ymweld ddod o hyd i dangnefedd ac adfywiad presenoldeb Duw.
  27. Byddwch fyw yn anturus. Pan fo modd dewis, a ddewiswch y llwybr a rydd ichwi fwyaf o gyfle i ddefnyddio’ch doniau yng ngwasanaeth Duw a’r gymuned? Boed i’ch bywyd lefaru. Pan fo’n rhaid penderfynu, a ydych yn barod i ymuno ag eraill wrth chwilio am lwybr eglur, gan ofyn am arweiniad Duw a chan gynnig cyngor y naill i’r llall?
  28. Ym mhob gris yn ein bywyd y mae cyfleusterau newydd o hyd. Gan ymateb i arweiniad dwyfol, ceisiwch ymglywed â’r adeg briodol i ysgwyddo neu i drosglwyddo cyfrifoldebau heb falchder nac euogrwydd amhriodol. Gofalwch am yr hyn a ofyn cariad oddi arnoch; efallai nad prysurdeb mawr mo hynny.
  29. Wynebwch henaint yn ddewr a gobeithiol. Hyd y gellir, gwnewch mewn da bryd drefniadau am eich gofal, fel na bo baich afresymol yn disgyn ar bobl eraill. Er y dichon henaint ddwyn anabledd ac unigrwydd cynyddol, gall hefyd ddod â llonyddwch ac arwahanrwydd a doethineb. Gweddïwch am gael eich galluogi yn eich blynyddoedd olaf i ganfod ffyrdd newydd o dderbyn ac adlewyrchu cariad Duw.
  30. A ydych yn abl i ystyried eich marwolaeth a marwolaeth eich anwyliaid? O dderbyn marwolaeth fel ffaith, fe’n rhyddheir i fyw yn llawnach. Mewn profedigaeth, caniatewch i chwi’ch hunan amser i alaru. Pan fo eraill yn galaru, gadewch i’ch cariad eu cofleidio.

  31. Gelwir arnom i fyw ‘yn rhinwedd y bywyd a’r gallu sy’n symud achos rhyfeloedd’. A ydych yn cynnal yn ffyddlon ein tystiolaeth fod rhyfel, a pharatoi am ryfel, yn anghyson ag ysbryd Crist? Chwiliwch yn eich ffordd o fyw am unrhyw arwydd o hadau rhyfel. Sefwch yn gadarn yn ein tystiolaeth, hyd yn oed pan fo eraill yn cyflawni neu’n paratoi i gyflawni gweithredoedd o drais; ond cofiwch eu bod hwythau hefyd yn blant i Dduw.
  32. Dygwch i oleuni Duw yr emosiynau, yr agweddau, y rhagfarnau hynny ynoch eich hunan sydd wrth wraidd gwrthdaro dinistriol, gan gydnabod fod arnoch angen maddeuant a gras. Ym mha ffyrdd yr ydych yn llafurio i gymodi rhwng unigolion a grwpiau a chenhedloedd?
  33. A ydych yn effro i arferion, yma a thrwy’r byd, sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail pwy neu beth ydynt neu oherwydd yr hyn a gredant? Dygwch dystiolaeth i ddynoliaeth pob un, gan gynnwys y rhai sy’n tramgwyddo confensiynau neu ddeddfau cymdeithas. Ceisiwch ddirnad y mannau lle ceir tyfiant newydd mewn bywyd cymdeithasol ac economaidd. Ceisiwch ddeall yr achosion am anghyfiawnder ac aflonyddwch cymdeithasol ac ofn. A ydych yn gweithio i greu cymdeithas gyfiawn a thosturiol a rydd gyfle i bawb ddatblygu eu galluoedd ac a feithrin eu hawydd i wasanaethu?
  34. Cofiwch eich cyfrifoldeb fel dinesydd am reolaeth materion lleol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol. Peidiwch ag arbed yr amser a’r ymdrech y gall eich ymrwymiad ei hawlio.
  35. Perchwch ddeddfau’r wladwriaeth ond boed eich teyrngarwch pennaf i fwriadau Duw. Os cymhellir chwi gan argyhoeddiad cryf i dorri’r ddeddf, chwiliwch eich cydwybod i’w ddyfnderau. Gofynnwch i’ch cwrdd am y gefnogaeth weddigar a’ch nertha wrth i’r llwybr cywir agor o’ch blaen.
  36. A ydych yn cynnal y rhai hynny sydd yn gweithredu dan gonsyrn, hyd yn oed os nad yw eu ffordd yr un â’r eiddoch chwi? Tra’n chwilio gydag eraill am ewyllys Duw ar eu cyfer, a ellwch osod o’r neilltu eich dymuniadau a’ch rhagfarnau eich hunan?
  37. A ydych yn onest a didwyll ym mhob peth a ddywedwch ac a wnewch? A ydych yn gwbl onest mewn trafodion masnachol ac yn eich ymwneud ag unigolion a sefydliadau? A ydych yn trin arian a gwybodaeth a ymddiriedir i chwi mewn modd doeth a chyfrifol? Y mae tyngu llwon yn awgrymu safon ddeublyg o wirionedd: wrth ddewis yn hytrach gadarnhau, cofiwch eich bod yn haeru gonestrwydd.
  38. Os pwysir arnoch i ostwng eich safon o gywirdeb, a ydych yn barod i wrthsefyll hynny? Gall ein cyfrifoldebau i Dduw ac i’n cymydog olygu gwneud safiad amhoblogaidd. Na foed i’r awydd am fod yn gymdeithasol, neu ofn ymddangos yn od, gyflyru eich penderfyniad.
  39. Ystyriwch pa ffyrdd i hapusrwydd a gynigir gan gymdeithas sy’n rhoi gwir fodlonrwydd a pha rai sy’n dwyn hadau llygredd a dinistr. Byddwch yn ofalus wrth ddewis cyfryngau difyrrwch a gwybodaeth. Gwrthwynebwch yr awydd i ennill meddiannau neu incwm trwy fuddsoddi’n anfoesol, neu trwy fentro arian yn anfoesol, neu trwy hap-chwarae.
  40. Yn wyneb y niwed a achosir trwy’r defnydd o alcohol a thybaco a chyffuriau eraill sy’n creu dibyniant, ystyriwch a ddylech gyfyngu eich defnydd ohonynt neu ymwrthod yn gyfan-gwbl â hwynt. Cofiwch y gall unrhyw ddefnydd o alcohol neu gyffuriau amharu ar eich gallu i farnu, gan roi’r defnyddiwr ac eraill mewn perygl.
  41. Ceisiwch fyw yn syml. Y mae dewis dull syml o fyw yn ffynhonnell cryfder. Peidiwch â chael eich perswadio i brynu dim nad oes arnoch mo’i angen neu na ellwch ei fforddio. A ydych yn gofalu cael gwybod am effeithiau eich dull chwi o fyw ar yr economi a’r amgylchedd byd-eang?
  42. Nid ni piau’r byd, ac nid eiddom ni mo’i oludoedd i’w gwaredu fel y mynnom. Dangoswch ofal cariadus am bob creadur, a cheisiwch warchod prydferthwch ac amrywiaeth y byd.

Ymdrechwch i sicrhau fod ein goruchafiaeth gynyddol ar natur yn cael ei ddefnyddio’n gyfrifol, gyda pharch at fywyd. Llawenhewch yn ysblander creadigaeth barhaol Duw.


Byddwch yn batrymau, yn esiamplau yn y gwledydd, lleoedd, ynysoedd a’r cenhedloedd oll, i ba le bynnag y deloch; fel y byddo eich ymarweddiad a’ch bywyd yn bregeth ymhlith pobl o bob math, ac yn llefaru wrthynt. Felly y derfydd i chwi deithio drwy’r byd yn siriol, gan ymateb i’r hyn sydd o Dduw ym mhob dyn.

George Fox, 1656

← 1.02 1.04 →